“Ar fynydd-dir uchel Israel y plannaf ef; fe dyf ganghennau, a rhoi ffrwyth a dod yn gedrwydden odidog. Bydd adar o bob math yn nythu ynddo, ac yn clwydo yng nghysgod ei gangau. “
Dychmygwch goeden enfawr, ffrwythlon a chadarn. Y mae ei gwreiddiau yn ymestyn yn ddwfn ac mae ei changhennau yn ymestyn yn eang i bob cyfeiriad. Y mae’r goeden yn ffynnon o fwyd a chysgod i’r adar. Mae rhai adar wedi gwneud eu nyth yno, ac yn canu eu diolch! Hefyd fe wahoddir adar eraill i flasu bendithion preswylio yn y goeden. Pan ddaw storm, mae’r adar yn ddiogel, mae cysgod, prydferthwch, ffrwythau, bendith a golygfa wych i’w gael.
Mae’r darlun yma yn fy ysbrydoli i feddwl yn wahanol am efengylu i’m teimladau blaenorol o euogrwydd a dyletswydd.
Mae’r gwreiddiau a’r boncyff yn fy atgoffa o wirioneddau dwfn yr efengyl a chymeriad digyfnewid yr Arglwydd sy’n hollol ddibynadwy. Mae’n sylfaen wedi ei wreiddio yng ngariad Crist ac er gogoniant Duw. Mae canghennau, dail a ffrwythau yn symbol o arglwyddiaeth Duw dros diwylliant, pob maes, pwnc a phopeth. Y mae canghennau dwyfol Duw yn ymestyn i bob cornel o fywyd. Mae Duw yn trefnu cyfleoedd i bob person ddod gam agosach ato ym mhle bynnag y maen nhw. Mae’r efengyl hefyd yn cynhyrchu gwir ffrwythau fel daioni, diogelwch, heddwch, dychymyg, tegwch, harddwch, maddeuant, cariad a chymdeithas i ni fel unigolion, cymuned a diwylliant. Er bod ein byd yn honn fod ganddynt yr atebion, dim ond ffrwyth Duw sydd wir yn bodloni ac yn goroesi angau. Adar wedi ymgartrefu yn y goeden yw Cristnogion; maent wedi ymgartrefu yn yr Arglwydd Iesu sydd wedi paratoi nyth inni. Rydym yn cyhoeddi pa mor wych yw’r goeden, diogelwch y nyth, prydferthwch ei ffrwythau a pha mor ddibynnadwy yw ei changhennau. “Dewch i flasu’r ffrwyth” yw un o’r caneuon rydyn ni’n eu canu ddydd a nos fel yr Eos. Canwn am y cyfle i bawb yn blant i henoed i glywed ac ymateb i newyddion da Iesu Grist. Mae’r canghennau, ffrwythau a ninnau’n rhoi cyfle i’r adar lanio neu lochesu.
Cwestiwn:
- Pa agweddau anghywir allwn ni gael o efengylu?
- Sut mae’r ddelwedd yma o efengylu yn eich helpu a’ch annog?